banner

Canllaw ar Oroesi Cinio Nadolig gyda Stoma Stomata a bwyd Nadolig

Stomata a bwyd Nadolig

Mae’r Nadolig bron â chyrraedd. Mae mis Rhagfyr yn fis o ymblesera a bwyta pethau na fyddech chi’n eu bwyta fel arfer ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. A minnau wedi bod â chlefyd Crohn ers bron 20 mlynedd a stoma am bron 6 o’r blynyddoedd hynny, gallaf ddweud heb air o gelwydd bod mis Rhagfyr yn achosi cryn bryder i mi o ran dewisiadau bwyd.

Mae’n rhaid i mi gofio nad ydw i’n gyffredin, a bydd fy llwybr treulio’n dioddef yn uffernol ’taswn i’n penderfynu bwyta’r hyn dwi eisiau ei fwyta ac wfft i’r canlyniadau, ie?! Na, dim o gwbl.

Erbyn y Nadolig eleni, bydd 8 wythnos wedi mynd heibio ers i mi gael llawdriniaeth i ailffurfio fy ileostomi dolen yn ileostomi pen draw, ac mae fy mherfedd yn dal i rwgnach weithiau.

Felly, sut ar y ddaear ydw i’n mynd i oroesi cyfnod yr ŵyl pan na allaf fwyta hanner yr hyn sy’n cael ei chwifio o dan fy nhrwyn…

Beth i’w wneud?

I’r rhan fwyaf ohonom, mae cael stoma yn newid bywyd ac yn rhoi rhyddhad i ni o’r hyn yr oeddem yn ei ddioddef cyn i’r stoma gael ei ffurfio. Mae llawer o bobl sydd wedi cael ostomi yn bwyta deiet cyffredin ac amrywiol iawn, ac eto nid yw rhai pobl sydd wedi cael ostomi yn gallu bwyta deiet amrywiol ac fe allent fod yn bryderus iawn ynglŷn â’r hyn y gallant neu na allant roi cynnig arno.

Fy ymwadiad ar gyfer hyn: y cyngor gorau y gallaf ei roi yw CNOI, CNOI, CNOI. Os nad ydych yn credu ei fod yn werth y risg, PEIDIWCH Â’I FWYTA!

Y peth anoddaf i mi dros gyfnod yr ŵyl yw mynd at berthnasau ar gyfer Cinio Nadolig. Mae’n gallu bod yn eithaf diflas gorfod esbonio beth rydych chi’n gallu a ddim yn gallu ei fwyta i ddwy set o berthnasau yn ogystal â theulu estynedig. Peidiwch â chamddeall – mae’r ddau deulu’n wych ac fe alla’ i fwyta’r hyn sy’n cael ei weini gan mwyaf. Os na, rwy’n pigo o amgylch y plât a’i sleifio ar blât Ben…

Mae stoma’n golygu bod bwydydd yn effeithio arnon ni’n wahanol. Rydw i wedi llunio rhestr o fwydydd isod y dylech eu hosgoi neu fwyta ychydig bach ohonynt yn unig o ganlyniad i’w heffeithiau posibl:

  • Bresych – achosi gormod o wynt
  • Ysgewyll – achosi gormod o wynt
  • Cnau – mae lwc o blaid y dewr. Dydw i ddim yn gallu bwyta’r rhain, ond mae pobl eraill yn gallu
  • Satswmas, orennau – gallai’r rhain achosi rhwystr oherwydd y croen
  • Winwns
  • Stwffin – gormod o wynt
  • Siocled – mae’r holl duniau yna o siocled yn gallu cael effaith ryddhaol ac achosi i’r stoma fflysio. Mae ychydig bach yn iawn, ond nid y tun cyfan
  • Ffrwythau sych
  • Pîn-afal
  • Cnau coco
  • Mins-peis – rwy’n dwlu ar y rhain, ond byddwch yn ofalus a chnowch nhw’n dda

I’r rhai ohonoch sy’n pryderu am fwy o allbwn yn ystod cyfnod yr ŵyl, fe allai hyn gael ei achosi gan faint rydych chi’n ei fwyta. Bydd amlder eich allbwn yn cynyddu po fwyaf rydych chi’n ei fwyta.

Alcohol a diodydd pefriog

  • Cwrw a lager – gall y rhain achosi gormod o wynt
  • Diodydd pefriog – gall y rhain achosi gormod o wynt. Cofiwch fod fersiynau deiet yn gallu achosi i’r stoma fflysio’n amlach.

Dylai alcohol gael ei fwynhau’n gymedrol. Mae’n cael effaith ddiwretig yn ogystal ag achosi dadhydradu. A does neb yn hoffi pen mawr ’chwaith.

Nadolig yn nhŷ’r perthnasau

Os ydych chi’n gymharol newydd i fywyd stoma, fy nghyngor gorau yw rhoi eich ceisiadau am fwyd i’r bobl sy’n paratoi’r bwyd y diwrnod penodol hwnnw, fel y gallwch ymlacio a pheidio â phoeni am orfod gadael hanner y plât.

Dyna fy nghyngor gorau ar gyfer cyfnod yr ŵyl. Arhoswch yn ddiogel, mwynhewch ac, yn bwysicaf oll, gobeithio y cewch chi Nadolig gwych.

Diolch yn fawr am ddarllen

Louise X

Mae Louise yn defnyddio ein cynhyrchion Platinwm gyda Fitamin E i gadw’r croen o amgylch ei stoma’n iach yn y tywydd oer. Rhowch gynnig ar sampl yma.

*Ymwadiad*

Diben y postiad blog hwn yw rhoi cyngor i bobl sydd wedi cael ostomi. Mae’r wybodaeth a roddwyd wedi’i seilio ar brofiad personol Louise ac ni ddylid ei hystyried yn gyngor clinigol. Mae anghenion pawb sydd wedi cael ostomi yn unigryw iddyn nhw a’u trefn gofal stoma. Siaradwch â’ch Nyrs Gofal Stoma cyn gwneud unrhyw newidiadau i’ch trefn gofal stoma.

Cofiwch rannu’r postiad hwn!