banner

Stori Stoma Charlotte – “Mae’r llawdriniaeth yma wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi”

Hei! 👋🏻

Fy enw i yw Charlotte ac rydw i newydd gael stoma newydd sbon ac yn awyddus iawn i sôn am gymaint mae fy mywyd wedi newid hyd yma…

Byw gyda chlefyd Crohn

Pan oeddwn yn 18 oed, fe ges i ddiagnosis o glefyd Crohn ar ôl ychydig flynyddoedd o ymchwiliadau. Mae clefyd Crohn yn effeithio ar bawb ychydig yn wahanol, ond i mi, roedd yn golygu colli pwysau, mynd i’r tŷ bach yn aml, dolur rhydd, colli gwaed ac, wrth i amser fynd ymlaen, mwy a mwy o boen. Yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, rydw i wedi treulio llawer o amser ar steroidau yn ogystal â rhoi cynnig ar bob math o feddyginiaethau a thriniaethau IV gyda sgil-effeithiau ofnadwy, a’r peth gwaethaf i mi oedd peidio â gwybod a oedden nhw’n gweithio mewn gwirionedd!

Eleni (wrth i mi droi’n 30 oed), digon oedd digon ac roeddwn i wedi cyrraedd sefyllfa lle roedd ansawdd fy mywyd mor wael. Roedd fy nghlefyd Crohn wedi meddiannu fy mywyd. Mae gen i blentyn 6 blwydd oed a rhwydwaith rhyfeddol o deulu/ffrindiau, ac roeddwn i’n colli cymaint o bethau, a oedd yn anodd iawn yn emosiynol hefyd.

Fe es i i apwyntiad gydag ymgynghorydd yn ôl ym mis Mai eleni gyda fy mhartner ac fe feichies i grïo; gan ddweud wrtho ef a fy nyrs IBD pa mor sâl oeddwn i MEWN GWIRIONEDD.

I mi, roedd y rhan fwyaf o lid difrifol fy nghlefyd Crohn wedi’i gyfyngu i’m coluddyn mawr gyda llawer o gulhau – felly, roedd clywed fy ymgynghorydd yn dweud y diwrnod hwnnw ‘gallai cael y llawdriniaeth hon eich gwella chi, o bosibl’ yn ddigon i fi benderfynu cael colectomi rhannol gydag ileostomi pen draw – mewn geiriau eraill, tynnu fy ngholuddyn mawr/colon ymaith ac yna dod â phen y coluddyn bach allan trwy’r abdomen a’i bwytho i’r bol. Yna, mae hwn yn draenio’r gwastraff/pŵ o’r coluddyn i fag stoma.

Fy llawdriniaeth stoma

Felly, 6 wythnos yn ddiweddarach, ym mis Gorffennaf, fe es i i’r ysbyty i gael fy llawdriniaeth. Cyn y llawdriniaeth, fe dreulies i lawer o amser yn ymchwilio i sut gallai fy mywyd fod, a dilyn teithiau llawer o bobl i geisio deall y peth. Rwy’n falch y gwnes i hyn oherwydd rwy’n credu y bu’n fuddiol i mi pan ddeffres i gyda fy stoma newydd sbon. Roedd y cymorth gan y GIG yn wych, o lawfeddygon i nyrsys stoma, ac roedden nhw wedi gwneud i bopeth deimlo’n gyffredin. Roedd yr ychydig ddiwrnodau cyntaf yn yr ysbyty’n anodd, ond roeddwn i’n gallu ymdopi â’r boen. Fe dreulies i 5 noson yn yr ysbyty i gyd – a oedd yn cynnwys fy mhen-blwydd yn 30 oed a gêm derfynol Pencampwriaeth Ewrop! Felly, doedd yr amseru ddim yn ddelfrydol, ond mae fy mywyd newydd ar ôl y llawdriniaeth wedi bod yn RHYFEDDOL.

Oes, mae gen i fag bach ar fy mol ac mae un o fy organau pwysig ar goll – OND mae’r llawdriniaeth yma wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi.

Ers fy llawdriniaeth, rydw i wedi gwneud pethau syml y byddai llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol, ond mae’r pethau hynny wedi bod mor felys oherwydd roeddwn i’n amau a fyddwn i erioed yn gallu eu gwneud nhw eto…Pethau bach fel yfed coffi, bwyta pryd o fwyd heb fod mewn poen, mynd i ffwrdd heb banig ynglŷn â ble mae’r tŷ bach agosaf!

Mae fy mywyd yn teimlo’n bositif bellach a dydw i ddim yn teimlo bod gen i unrhyw gyfyngiadau.

Mae fy stoma – sydd wedi’i enwi’n ‘Wilson’ – wedi fy ngwneud i’n gryfach, rydw i wedi gallu magu pwysau o’r diwedd a mwynhau fy mywyd heb boen. Mae llwybr i’w deithio gydag unrhyw fath o IBD ac rwy’n siŵr y bydd cyfnodau gwell a gwaeth ar y ffordd, ond mae’n sicr yn teimlo fel fy mod i ar daith hapus a phositif o’r diwedd.

Rwy’n methu aros rhannu mwy o fy stori gyda chi i gyd yn fuan!

Charlotte xxx

@char.crohnsftwilson

Cofiwch rannu’r postiad hwn!

Meet the blogger: Charlotte

Meet Charlotte, who was diagnosed with Crohn’s Disease in 2009 and after years of trying medication after medication. She now lives with a new brand new stoma, named Wilson, which […]